Datblygu eich sgiliau

Beth bynnag fo gweithgaredd y diwrnod, byddwch yn onest gyda’ch hunan ynghylch eich gwybodaeth, ffitrwydd a gallu chi eich hunan a’ch cymdeithion. Rydym i gyd yn hoffi meddwl ein bod yn fwy ffit neu’n fwy medrus nag yr ydym, ond yn yr achos yma mae’n werth bod yn onest.

Gwybod i ble rydych chi’n mynd
Cariwch fap/siart a chwmpawd gan wybod sut i’w defnyddio.

Bob blwyddyn bydd miloedd o bobl yn galw am help oherwydd eu bod ar goll a/neu wedi blino. Y dyddiau hyn mae mapiau papur yn cael eu hystyried yn ddiangen, ond maent yn ysgafn i’w cario ac nid ydynt yn rhedeg allan o fatri! Am ganllawiau syml ar sut i ddarllen map a defnyddio cwmpawd cymerwch olwg ar y canllaw i ddechreuwyr yn OS Beginner’s Guides.

Bod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau

Os yw’r tywydd, yr amodau dan draed  neu’r llwybr y tu hwnt i’ch gallu neu’ch offer, yna ystyriwch eich opsiynau – does dim o’i le ar ddewis llwybr mwy addas neu droi’n ôl. Cofiwch ganiatáu digon o amser ar gyfer yr aelod lleiaf abl o’ch grŵp. Ewch i wefannau Parciau Cenedlaethol neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol am wybodaeth ynghylch teithiau cerdded ar gyfer pob gallu.

Parchu’r Dŵr

Os ydych chi ar y traeth neu’n cerdded ar hyd yr arfordir;

  • Peidiwch ȃ chael eich torri i ffwrdd gan y llanw – gwiriwch amseroedd y llanw.
  • Os yw’n bosib dewiswch draeth gydag achubwyr bywyd a nofiwch rhwng y baneri coch a melyn.
  • Peidiwch ȃ neidio i mewn i byllau os nad ydych yn gwybod nad oes peryglon o dan y dŵr.
  • Os cewch eich dal mewn cerrynt terfol, peidiwch ȃ cheisio nofio yn ei erbyn. Os yn bosib, sefwch a rhydiwch, peidiwch ȃ nofio. Os na allwch sefyll, nofiwch yn gyfochrog ȃ’r lan, codwch eich llaw a galw am help.

Os ydych am fynd allan ar y dŵr;

  • Gwiriwch ragolygon y tywydd a rhagfynegiadau cerrynt ar gyfer eich taith gan wneud yn siŵr eu bod yn cyd-fynd ȃ’ch cynlluniau.
  • Gofalwch am eich cwch; gan wybod sut i atgyweirio problemau cyffredin a sut i ymgymryd ȃ gwaith cynnal a chadw sylfaenol.
  • Cynlluniwch eich taith – gwiriwch os oes yna unrhyw beryglon neu risgiau cyfeiriannu y dylech eu hosgoi.
  • Gwnewch yn siŵr bod pawb ar y cwch, neu yn eich grŵp, yn gwybod lle mae’r offer diogelwch wedi ei gadw a sut i’w defnyddio.
  • Dewch i’r arferiad o glipio eich hunan i bwyntiau addas o gwmpas y cwch yn ystod y nos, pan fyddwch eich hunan ar y bwrdd, neu mewn amodau garw.
  • Mewn cwch motor? Os oes ganddo linyn diffodd cofiwch ei ddefnyddio.
Cynllunio ar gyfer yr aelod lleiaf abl o’ch grŵp

Er enghraifft, os yw cyrraedd y copa yn mynd i fod yn heriol yna newidiwch am daith ar lefel is y gallwch i gyd fwynhau a’i gyflawni’n hawdd. Ewch i wefannau Parciau Cenedlaethol neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol am wybodaeth ynghylch teithiau cerdded ar gyfer pob gallu.

Os ydych yn gwneud rhywbeth newydd neu’n mynd i rywle newydd…
pam na wnewch chi fynd gyda thywysydd/hyfforddwr cymwys neu gofrestru am rywfaint o hyfforddiant?

Gellir dod o hyd i lawer iawn o dywyswyr brwdfrydig a gwybodus ar Croeso.Cymru neu gallwch ddilyn y doleni isod am gyrsiau ar gyfer gweithgareddau penodol, gallant newid dy atnur yn llwyr – am y gorau!

Cerdded mynydd/Mynydda
Canŵio
Beicio mynydd
Hwylio, Hwylfyrddio a Chychod pŵer
Padl-fyrddio (SUP)

Arnofio i Fyw…
bydd sioc dŵr oer yn mynd heibio mewn llai na 2 funud, felly ymlaciwch ac arnofiwch ar eich cefn nes bydd eich anadlu dan reolaeth.

Efallai nad oeddech wedi bwriadu nofio ond gallwch ddioddef o sioc dŵr oer os byddwch yn llithro, baglu neu ddisgyn i mewn i’r môr, llyn neu afon. Dilynwch y cyngor syml yma er mwyn galluogi i effeithiau sioc dŵr oer fynd heibio, i chi allu rheoli eich anadlu ac i roi’r cyfle gorau i chi alw am help a dod o hyd i rywbeth i’ch helpu i arnofio neu nofio i rywle diogel. Byddwch yn falch eich bod wedi pacio dillad sbȃr, sych!

 

MENTRA’N GALL

Meddwl am Offer

Nid oes rhaid i chi fod ȃ’r siaced ddrytaf a’r gorau ar y farchnad er mwyn mentro’ngall. Y gamp yw rhoi ychydigo ystyriaeth i’r amodau all fodo’ch blaen a phacio bag gydadigon er mwyn sicrhau eichbod yn gallu ymdopi ȃ beth bynnag ddaw.

Gwylio'r Tywydd

Rydym yn enwog yn y DU am ein hobsesiwn gyda’r tywydd, ac felly mae’n eithafrhyfeddol nad ydi pobl gan amlaf yn talu digon o sylw isut y gall effeithio ar antur y diwrnod.
Waeth beth yw eichgweithgaredd gall bod ynbarod am y tywydd wneudcymaint o wahaniaeth i sutfyddwch chi’n teimlo ar ddiwedd y dydd.

Datblygu eich sgiliau

Beth bynnag fo gweithgareddy diwrnod, byddwch yn onest gyda’ch hunan ynghylch eichgwybodaeth, ffitrwydd a gallu chi eich hunan a’chcymdeithion.
Rydym i gyd ynhoffi meddwl ein bod yn fwyffit neu’n fwy medrus nag yr ydym, ond yn yr achos ymamae’n werth bod yn onest.

Gwybod sut a phryd i alw am gymorth

Gall damweiniau ddigwydd iunrhyw un waeth pa mor gall ydych, felly beth bynnag fo’chgweithgaredd, gwnewch ynsiŵr bod gennych ffordd o alw am gymorth os byddwchangen gwneud hynny.
image_pdfimage_print